Menter Treftadaeth Treflun |
![]() |
| Castell Aberteifi |
|
Castell Aberteifi
1110 1165 1485 1793 Castell Aberteifi Codwyd y Castell y gellir ei weld heddiw yn Aberteifi ei hun yn 1100 gan Gilbert de Clare ac os byddai wedi sylweddoli faint o drafferth y byddai hyn yn ei achosi, efallai na fyddai wedi trafferthu. Dros y 100 mlynedd nesaf, gwelwyd y castell yn newid dwylo yn gyson rhwng y Normaniaid a’r Cymry. Llwyddodd mab De Clare i adfer y castell ym 1136, yr un flwyddyn ag yr arweiniodd Rhys ap Gruffydd, tywysog y Deheubarth, neu Arglwydd Rhys, y gorchfygiad yn erbyn y Normaniaid yn y dref ym mrwydr waedlyd Crug Mawr. Ei wobr oedd y castell ac aeth ati i’w drawsnewid o’i strwythur pren gwreiddiol yn strwythur cerrig. Rhys fu perchennog balch y castell tan ei farwolaeth ym 1197, a oedd yn gychwyn cyfnod arall o wrthdaro. Gwelwyd ei feibion, Maelgwn a Gruffydd yn dadlau dros eu hetifeddiaeth, ac arweiniodd hyn at Faelgwn yn ildio Gruffydd i’r Normaniaid gan werthu’r Castell i Frenin John Bu Castell Aberteifi yn gartref i amrywiaeth o berchnogion Normanaidd nes i Llywelyn Fawr ymosod arno a’i ddinistrio i ddangos ei nerth. Mewn ymryson hanesyddol, gwelwyd William Marshal y Norman yn rheoli’r safle nesaf, ac fe’i ddilynwyd ef gan y Cymry a Norman arall. Ar ôl y goncwest olaf hon gan Norman yn y 1240au, ailadeiladwyd y castell. Adeiladwyd dau dðr, gorthwr newydd a mur i’r dref er mwyn creu’r cadarnle, y mae ymwelwyr yn gallu gweld eu hadfeilion heddiw. Erbyn diwedd y drydedd ganrif ar ddeg, hawliodd Brenin Edward 1af y castell.
Gwelwyd heddwch yn y castell am bron i bedair canrif, tan 1645 a’r
Rhyfel Cartref Seisnig, pan benderfynodd Oliver Cromwell ymosod ar y murfylchau.
Achoswyd cymaint o ddifrod fel y bu’r castell yn wag tan y 1800au
cynnar, pan adeiladwyd plasty preifat ar y safle, gan derfynu’r
cythrwfl sydd wedi rhoi ei threftadaeth unigryw i Gastell Aberteifi. Porthladd Aberteifi Roedd Aberteifi wedi bod yn borthladd ers y Canol Oesoedd cynnar ac roedd ei bwysigrwydd yn deillio o’i leoliad strategol ar lannau afon Teifi – y porth i ddyffryn ffrwythlon Teifi. Roedd ehangder helaeth y dðr islaw’r bont yn berffaith er mwyn ei ddatblygu i fod yn borthladd ac yn ystod y cyfnod canoloesol, arweiniodd hyn at gynyddu pwysigrwydd Aberteifi fel canolfan fasnachu trwy fod yn lleoliad i fewnforio pysgod iddo ac i allforio cynnyrch fferm lleol, rhisgl derw, penwaig hallt a llechi Cilgerran oddi yno i Iwerddon a rhannau gorllewinol yr Ynysoedd Prydeinig. Erbyn oes Elisabeth, roedd Aberteifi wedi tyfu i fod y porthladd pwysicaf yng Nghymru ac eithrio Aberdaugleddau, ac roedd yn awdurdodi dros ardal a oedd yn ymestyn o Abergwaun i Aberaeron. Yn ystod y ganrif nesaf, sefydlwyd y diwydiant adeiladu llongau yn Aberteifi, ynghyd â’r masnachau ategol sy’n gysylltiedig â gweithgarwch morol, megis cynhyrchu hwyliau a rhaffau, llosgi calch a bwrw haearn. Yn ystod y ddeunawfed ganrif, gwelwyd porthladd Aberteifi yn tyfu eto, gan ddelio â nwyddau a oedd yn amrywio o halen i prðns ac o gorn i tar. Adeiladwyd tþ tollau i ymdopi â’r masnachu cynyddol yn St Mary’s Street gyferbyn â Chancery Lane. Gwelwyd y cysylltiadau masnachol rhyngwladol a lleoliad delfrydol Aberteifi yn dwyn ffyniant digyffelyb i’r ardal. Erbyn y 1800au cynnar, cofrestrwyd ymhell dros 300 o longau yn Aberteifi, gan gyflogi 1000 o ddynion. Roedd yn fwy na Bryste ar un adeg hyd yn oed ac roedd ei llongau yn hwylio i gyrchfannau mor bell â’r Ariannin, yr Ynysoedd Dedwydd a Chanada. Nid yn unig yr oedd Aberteifi yn ffynnu fel porthladd masnachu, ond fe’i gwelwyd yn datblygu i fod yn ganolfan i ddiwydiant adeiladu llongau llewyrchus a leolwyd yn Netpool (lle y ceir parc prydferth heddiw) ac i lawr yr afon ymhellach yn Llandudoch. Adeiladwyd cannoedd o longau ar lan afon Teifi – roedd rhai ohonynt yn pwyso hyd at 400 tunnell. Roedd rhai o’r llongau hyn yn cario pobl ac yn wir, daeth Aberteifi yn un o’r porthladdoedd mwyaf yn y wlad ar gyfer ymfudo trawsatlantig, gan anfon llongau fel Active ac Albion i New Brunswick yng Nghanada a Triton i Efrog Newydd. Erbyn diwedd y 18fed ganrif, gwelwyd y ffaith bod llongau ager yn disodli’r llongau hwylio, ynghyd â’r ffaith bod yr afon wedi llenwi â llaid a dyfodiad y rheilffordd ym 1895, at gwymp Aberteifi yn y pen draw fel porthladd rhyngwladol. Er gwaethaf yr ymdrechion i adfer ffyniant y porthladd ar ôl y rhyfel byd cyntaf, gwelwyd ei ddirywiad yn parhau, nes i longau masnachol ymweld â’r dref am y tro olaf ym 1942. Fodd bynnag, mae nifer y llongau pleser sy’n defnyddio afon Teifi wedi cynyddu yn ddiweddar ac er bod y llongau cargo mawr wedi mynd am byth efallai, efallai y bydd rôl Aberteifi fel canolfan forol i dwristiaid yn gychwyn oes newydd lewyrchus yng nghyswllt hir a gwerth chweil y dref gydag Afon Teifi. Mae dyfrgi efydd o faint naturiol sydd wedi’i gerfio’n brydferth ar graig, bellach yn sefyll ar y cei, cofadail trawiadol i afon Teifi – un o gadarnleoedd olaf dyfrgwn afon ym Mhrydain. Dadorchuddiwyd hwn gan Dr. David Bellamy ar Gei Tywysog Charles ym 1988. Canolfan Dreftadaeth Aberteifi Hanes Aberteifi trwy gyfrwng arddangosiadau cyfrifiadurol rhyngweithiol
a statig, ynghyd â chaffi ar lan yr afon sy’n cynnwys seddau
y tu mewn a thu allan, a siop grefftau. Arddangosfeydd ar themâu
lleol sy’n newid.
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |