Menter Treftadaeth Treflun
Aberteifi

Ailgreu Balchder yn Aberteifi | Recreating Pride in Cardigan
Menter Treftadaeth Treflun Aberteifi
English
Hafan
Nodau
Cadwraeth
Adeiladwyr
Penseiri
Eiddo a Gyllidir
Adeiladau Rhestredig
Cyllid
Castell Aberteifi

Cynllun Treftadaeth Tregaron

Cwestiynau
Cysylltwch ag
Dolenni

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

C. Rwy’n byw yn fy nhy fy hun ac yn edrych am grant i’w wella. A allaf wneud cais i Ailgreu Balchder yn Aberteifi?

A. Y ffynhonell orau o gymorth grant ar gyfer eiddo preswyl yw’r Cynllun Ardal Adnewyddu ar 01545 572185 neu 01239 612157. Mae ein cynllun wedi ei anelu at anheddau busnes gydag ond ychydig o arian ar gael i gyllido adeiladau preswyl.

C. Yr wyf yn byw y tu allan i’r ardal a ddangosir ar y map, ond mae gennyf fusnes neu siop. A allaf gael grant?

A. Yr ydym yn ceisio ymestyn ffiniau ein cynllun, ond gallech fod yn gymwys i dderbyn Grant Gwella’r Dref. Cysylltwch â’r Swyddog Cadwraeth ar 01239 621347 am ragor o fanylion.

B. Yr oeddwn eisoes wedi dechrau ar y gwaith cyn i mi wybod am y grant hwn. A fydd y gwaith hwnnw yn gymwys i dderbyn grant?

A. Nac ydyw. Gallwn ond gyllido gwaith sydd wdi dechrau ar ôl i’r grant gael ei gymeradwyo

C A yw’r cyfan o’r gwaith i’r adeilad yn cael cymorth grant?

A. Nac ydyw. Mae canllawiau’r pecyn gwaith cynhwysfawr yn esbonio cyfyngiadau’r grant. Bydd y Swyddog Cadwraeth yn gweithio drwy eich cais ac yn penderfynu beth sydd yn ‘waith cymwys’ o dan y cynllun.

C. A ydych yn cyllido’r gwaith mewnol?

A Ddim fel arfer. Cysylltwch â gweinyddwyr y cynllun er mwyn trafod ymhellach.

C A ydych yn talu’r TAW ar unrhyw waith?

A. Nac ydym. Yr ydym yn cymryd yn ganiataol fod unrhyw fusnes neu siop wedi ei gofrestru ar gyfer TAW. Mae’r Rheolau Ewropeaidd ar TAW yn nodi os “gall” gael ei ad-dalu gan berchennog yr adeilad yna mae’n ad-daladwy. Os nad ydych yn cael eich cofrestru ar gyfer TAW yna ystyria’r UE fod hynny’n gamgymeriad ar eich rhan.

C A ydych yn caniatau unrhyw fath o ddefnyddiau i gael eu defnyddio yn y gwaith adeiladu?

A. Nac ydym. Grant Treftadaeth ydy hwn, a gofynnwn am i ddefnyddiau traddodiadol gael eu defnyddio lle bo hynny’n bosibl.

C A oes angen i mi ddefnyddio asiant (neu bensaer).

A. Oes. Mae arnom angen asiant gyda chymwysterau priodol i baratoi, cynllunio a goruchwylio’r gwaith.

C A allwch argymell asiant neu adeiladwr a all gyflawni’r math hwn o waith?

A. Na allwn. Nid oes hawl gennym i argymell unrhyw fusnes. Yr hyn a argymellwn yw eich bod yn gofyn i unrhyw asiant posibl pa fath o waith tebyg a gyflawnwyd ganddynt.

C A ydych yn talu am yr asiant?

A Byddwn yn cyllido ffioedd proffesiynol hyd at 12% o gyfanswm y gwaith cymwys.

C A oes raid i mi dendro ar gyfer y gwaith ar fy adeilad?

A Oes. Bydd yn rhaid i chi ddarparu prawf i chi ofyn am 3 tendr yn seilieidg ar y manylion a baratowyd gan eich asiant. Disgwylwn i chi ddewis yr un sydd yn rhoi gwerth gorau, nid o angenrhaid y rhataf bob tro.

C. Yr wyf yn rhydd-ddeiliad. A allaf wneud cais am grant?

A Mae rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd yn datgan fod yn rhaid i rydd-ddeiliad gael prydles o fwy na 50 mlynedd cyn cael ei ystyried fel perchennog. Cysylltwch â gweinyddwyr y cynllun,os oes problem, gan ein bod ar hyn o bryd yn edrych am eglurhad pellach i’r rheol hon.

C. Sut gallaf hawlio’r grant?

A. Gallwch hawlio drwy ddarparu anfonebau a dderbynebwyd. Nid oes ots gennym a ydych yn hawlio bob mis neu bob chwarter. Ein hunig amod yw fod perchennog yr adeilad wedi talu’r bil cyn hawlio oddi wrthom.

C. Beth sydd yn digwydd pe byddwn yn gwerthu fy adeilad ar ôl derbyn grant?

A Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu y cyfan neu ran o’r grant os byddwch yn gwerthu yr adeilad o fewn 5 mlynedd (neu mewn rhai achosion 10 mlynedd) ar ôl taliad olaf y grant. Yr ydym yn hysbysu’r Gofrestrfa Tir o’r holl grantiau a dalwyd.

C Yr wyf eisoes wedi derbyn grant arian Ewropeaidd neu Wladol. A wyf yn parhau yn gymwys ar gyfer y grant hwn?

A. Gallech fod. Mae’r rheolau ar gyfer cymorth Ewropeaidd neu Wladol yn gymhleth. Dylech o dan y rhan fwyaf o amgylchiadau fedru derbyn grant o 50%, ond unwaith eto siaradwch gyda gweinyddwyr y cynllun, neu darllenwch ganllawiau’r pecyn cais.

 


Amodau a thelerau | Phreifatrwydd
Cronfa Dreftadaeth y Loteri | Heritage Lottery Fund Menter Aberteifi Ceredigion County Council CADW Objective 1