Menter Treftadaeth Treflun |
![]() |
| Y nod Menter Treftadaeth Treflun Aberteifi |
|
Beth sy’n gymwys?Adeiladau busnes ac adwerthu yn rhan ddynodedig yr ardal gadwraeth. Bydd grant yn cyfrannu at y gost o adfer y tu allan, sicrhau bod modd defnyddio safle llawr gwag unwaith eto yn ogystal ag adfer manylder pensaernïol a threftadaeth yr adeilad. Mae grantiau ar gael er mwyn gwella cyfleusterau lleol a safleoedd bwlch yn yr ardal ddynodedig hefyd. Pwy sy’n gallu gwneud cais?Gall perchenogion eiddo neu brydleswyr y mae 25 blwyddyn yn weddill o'u prydles lease, wneud cais. Bydd y grant a delir yn amrywio ac mae’n gallu cynnwys ffioedd proffesiynol sy’n codi wrth baratoi cynllun derbyniol. Pa waith sy’n gymwys? Gall y gwaith y gellir rhoi cymorth grant ar ei gyfer gynnwys trwsio
toeon, simneiau, gwaith ar gerrig, bricwaith, rendro, ailbwyntio, gwaith
plwm, nwyddau dw^r glaw, ffenestr, silffoedd ffenestri, drysau, ffenestri
linter, nodweddion addurniadol, ac ati. Sut i wneud cais 1. Dylech gysylltu â’r cyfeiriad isod i wneud ymholiadau
cychwynnol. Sylwer: Ni fydd gwaith sydd wedi cychwyn cyn y cytundeb a’r penderfyniad ynghylch cyfradd y grant, yn cael ei gynnwys. Nodir amodau pellach yn y Pecyn Ymgeisio.
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |