Menter Treftadaeth Treflun |
![]() |
| Y nod Menter Treftadaeth Treflun Aberteifi |
|
Ailddarganfod Hunaniaeth Ein TrefMae tref Aberteifi’n ganolfan ddiwylliannol a masnachol hynafol, ac iddi drefwedd sydd heb ei difetha i raddau helaeth ac mae ganddi lawer i’w gynnig fel canolbwynt twristaidd a masnachol bywiog. Mae Cynllun Treftadaeth Trefwedd Aberteifi’n cynorthwyo cadw nodweddion pensaernïol unigryw’r dref trwy ddarparu cyllid at adnewyddu adeiladau busnes ac adwerthu, ynghyd â gwella cyfleusterau lleol a safleoedd lle mae bylchau i helpu i ailsefydlu Aberteifi fel canolfan economaidd, hanesyddol a diwylliannol yn y canolbarth.
Ar y dde: Y Deli braf yn 55 Pendre, a llun ohono cyn i’r gwaith adnewyddu gael ei wneud. Cafwyd Grant Gwella Tref ar gyfer to newydd, ffrynt i’r siop o bren caled sy’n gydnaws â’r adeiladwaith presennol, arwyddion, drysau, ffenestri bae, mynedfa, pileri cornis ac ail-rendro a pheintio’r wal flaen.
Ceisio Dyfodol Economaidd Gynaliadwy Mae Cynllun Treftadaeth Trefwedd Aberteifi’n cynnig grantiau at gostau adnewyddu ac mae hyn yn fodd i wneud adnewyddu tai’n ymarferol yn economaidd yn unol â’u treftadaeth adeiledig. Hefyd rydym yn cynnig cyngor arbenigol ynglyn â chadw nodweddion gwreiddiol adeiladau, gan ddefnyddio technegau a deunyddiau adeiladu traddodiadol a sicrhau eu bod yn gydnaws â phensaernïaeth y cyffiniau - sy’n allweddol o ran cynyddu eu gwerth ar y farchnad.Ers cyflwyno’r Cynllun Treftadaeth Trefwedd bum mlynedd yn ôl, mae rhagor na thrigain o dai wedi cael Grantiau naill ai drwy’r Cynllun Treftadaeth Trefwedd neu Grantiau Gwella’r Dref, ac mae’r ceisiadau’n cynyddu’n wythnosol. Yn yr hinsawdd gystadleuol sydd ohoni heddiw mae creu canol deniadol ac unigryw i’r dref yn allweddol o ran sicrhau dyfodol sefydlog a chynaliadwy i Aberteifi.
Y pen pellaf ar y chwith: Siop Emwaith David Evans ar ei newydd wedd, mewn lle amlwg ar y brif stryd siopa. Cafwyd grantiau i helpu adfer ffrynt y siop, yr arwydd, y ffenestr a’r canopi, ynghyd â theiliau newydd ar y grib ac ar y wal, a gwaith plwm a gwteri. Chwith: Y siop emwaith cyn i’r gwaith gael ei wneud.
Digwyddiad Treftadaeth Aberteifi: Gwanwyn 2007 Bydd digwyddiad Treftadaeth nesaf Aberteifi a gynhelir yn gynnar yn 2007 yn bwrw golwg dros y manteision economaidd o adnewyddu adeiladau hanesyddol Aberteifi. Bydd y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd ac i arbenigwyr proffesiynol ym maes treftadaeth fel ei gilydd a bydd yn cynnwys siaradwyr blaenllaw a chrefftwyr medrus a fydd yn cyflwyno cyfres o seminarau, gweithdai ac arddangosiadau. Bydd arddangosfa ffotograffau o Aberteifi drwy’r oesoedd.
Gwyliwch am ragor o fanylion ac amserlan.I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a Gary Cooper ar 01239 621347, thi@ceredigion.gov.uk.
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |