Menter Treftadaeth Treflun
Tregaron

Ailgreu Balchder yn Aberteifi | Recreating Pride in Cardigan
Y nod Menter Treftadaeth Treflun Tregaron
English
Hafan
Nodau
Cadwraeth
Adeiladwyr
Penseiri
Eiddo a Gyllidir
Adeiladau Rhestredig
Cyllid
Castell Aberteifi

Cynllun Treftadaeth Tregaron

Cwestiynau
Cysylltwch ag
Dolenni

Cynllun Treftadaeth Tregaron - Y Cynlluniau Sydd Wedi Eu Hariannu - Dyfodol Y Cynllun

Cynllun Treftadaeth Tregaron

SIOP FLODAU LAs, 2 FFORDD YR ORSAF

Cynllun Treftadaeth Tregaron SIOP FLODAU LAs, 2 FFORDD YR ORSAF

Cynt

Wedyn

Ym mhen deheuol y sgwâr, a adwaenir fel y Sgwâr Bach.

Cafodd gwaith atgyweirio ei wneud yn ystod Hydref 2005. Roedd y gwaith yn cynnwys gosod llechi newydd ar y to, gan ddefnyddio llechi ail law fel bai angen. Cafodd y simnai ei ail-bwyntio gan ddefnyddio cymysgedd o dywod a chalch. Defnyddiwyd rendr calch ar olygon blaen yr adeilad hefyd. Newidiwyd ffenestri’r golygon blaen. Gosodwyd ffenest siop newydd gan osod ffenest yr ystyrid ei bod yn fwy addas i ffrynt siop Fictoraidd yn Nhregaron, gydag amgylchyniad pren. Gosodwyd drws pren newydd, a’i ben uchaf wedi ei wneud o wydr. Y perchennog a ddewisodd y lliwiau ac mae’r paent o fath sy’n caniatáu anadlu. Ystyriwyd ei bod yn flaenoriaeth tynnu cyfarpar y gwasanaethau cyhoeddus oddi ar y waliau ac mae hynny wedi ei wneud yn unol â chynllun gwella Gwasanaethau’r Stryd, gweler isod. Mae’r arwydd sy’n ymestyn allan uwchben y drws wedi ei ddylunio’n arbennig ac mae’r siop yn cael ei hysbysebu’n ddwyieithog.

Dyddiad yr adeilad:  Canol y bedwaredd ganrif ar ddeg
Adeiladwr / Pensaer :  Stevens Building / Peter T Davies


HAFDRE, THE SQUARE

HAFDRE, THE SQUARE HAFDRE, THE SQUARE

Cynt

Wedyn

Saif Hafdre ym mhen deheuol prif sgwâr y dref a Gwesty’r Talbot ar y naill ochr iddo a Swyddfeydd y Cyngor ar yr ochr arall. Bu problemau tamprwydd ar lawr gwaelod yr adeilad a bu pydredd sych yno hefyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf a hynny oherwydd bod y cwteri a’r landerau gwaredu dŵr glaw wedi eu hesgeuluso.

Er mwyn cael gwared ar y tamprwydd o’r waliau penderfynwyd y dylid tynnu’r rendr sment i ffwrdd a gosod rendr calch yn ei le. Roedd yn fwriad adfer y ffenestri gan geisio cadw cymaint ag y byddai modd o’r pren gwreiddiol.  Ar ôl archwilio’n fanwl darganfuwyd bod y bocs a oedd yn amgylchynu’r ffrâm mewn cyflwr difrifol ac na fyddai modd ei atgyweirio ac felly gosodwyd un newydd yn ei le. Cafodd yr adeilad ei ail-doi ac adferwyd y simneiau gan ddefnyddio briciau ail law lleol. Cafodd y waliau eu haddurno gan ddefnyddio golchydd lliw calch.

Cafwyd grantiau at y cynllun hwn gan Gyngor Sir Ceredigion a Cadw

Dyddiad yr adeilad : Canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg
Adeiladwyr / Pensaer : LB Construction / Penseiri Gareth Lewis.


BRENIG HOUSE, CHAPEL STREET

BRENIG HOUSE, CHAPEL STREET  - Tregaron

Wedyn

Mae Tŷ Brennig yn dy dau lawr yng nghanol teras ym mhen de ddwyreiniol Stryd y Capel. Mae Afon Brennig yn llifo heibio ar ei hynt y tu cefn i’r adeilad. Mae’r Ty’n dyddio o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn wreiddiol byddai ganddo waliau cerrig wedi eu rendro, to llechi a chyrn simneiau o frics neu gerrig. Adferwyd y simneiau, y ffenestri a’r drysau. Er nad oedd grant i’w gael at y gwaith, aethpwyd ati i adfer a moderneiddio’r estyniad haearn rhychog y tu cefn i’r adeilad gan gadw ei gymeriad traddodiadol. Tynnwyd y rendr sment gwreiddiol o’r golygon blaen ac fe roddwyd rendr newydd arnynt o forter calch.


NEUADD ABERCOED, THE SQUARE

NEUADD ABERCOED, THE SQUARE - Tregaron NEUADD ABERCOED, THE SQUARE - Tregaron

Cynt

Wedyn

Mae’r adeilad hwn wedi cael ei ddefnyddio fel swyddfa / oriel gelf ers rhai blynyddoedd. Saif ym mhen gogleddol y prif sgwâr y dref, y drws nesaf i’r Neuadd Goffa. Mae’n fwriad defnyddio’r adeilad gwreiddiol ar gyfer swyddfeydd.
 
Dechreuwyd ar y gwaith adfer ym mis Ionawr 2007 a bwriedir adfer y simneiau, y ffenestri dormer, gosod ffenestri codi pren yn lle’r ffenestri plastig anaddas ar y golygon blaen a’r ffenestri dormer, gosod drws blaen newydd a gosod cwteri a landerau dŵr glaw wedi eu gwneud o haearn bwrw.


The Scheme is financed by the following :-
European Objective 1 Funding
Welsh Assembly Local regeneration Fund
Cadw (now part of the National Assembly)
The Welsh Development Agency (now part of the National Assembly)
Ceredigion County Council
Formerly Curiad Caron & now The Tregaron Tourism Co through voluntary time contributions
Private Contributions

 

Take a look at our recent property developments

 

Amodau a thelerau | Phreifatrwydd
Cronfa Dreftadaeth y Loteri | Heritage Lottery Fund Menter Aberteifi Ceredigion County Council CADW Objective 1