Menter Treftadaeth Treflun
Tregaron

Ailgreu Balchder yn Aberteifi | Recreating Pride in Cardigan
Y nod Menter Treftadaeth Treflun Tregaron
English
Hafan
Nodau
Cadwraeth
Adeiladwyr
Penseiri
Eiddo a Gyllidir
Adeiladau Rhestredig
Cyllid
Castell Aberteifi

Cynllun Treftadaeth Tregaron

Cwestiynau
Cysylltwch ag
Dolenni

Cynllun Treftadaeth Tregaron - Y Cynlluniau Sydd Wedi Eu Hariannu - Dyfodol Y Cynllun

DYFODOL Y CYNLLUN

Bydd arian Cynllun Treftadaeth Tregaron yn dod i ben ym mis Mawrth 2008. Cyn hynny bwriedir adfer nifer o adeiladau yn y dref a chynnal nifer o weithgareddau.

1. Bydd grantiau ar gael ar gyfer adfer nifer o adeiladau busnes, adeiladau preswyl ac adeiladau/cyfleusterau cyhoeddus. Dim ond hyn a hyn o arian sy’n weddill felly dylech gysylltu â’r swyddog prosiect cyn gynted ag y bo modd os oes diddordeb gennych chi.

2. Ers i Curiad Caron ddod i ben, mae Cwmni Twristiaeth Tregaron Cyf, a ffurfiwyd yn bennaf gan aelodau o Bwyllgorau Rasys a Ffair Garon, wedi bod yn gyfrifol am drefnu gweithgareddau ar gyfer ymwelwyr. Yn 2007 cynigir cynnal dwy ras - y naill ym mis Chwefror ar Gors Caron a’r llall ym mis Mai, sef Ras y Ddau Sant a redir rhwng eglwysi Tregaron (Caron Sant) a  Llanddewi Brefi (Dewi Sant). Cynhelir Ffair Garon ar Ŵyl Banc olaf mis Mai. Arferid cynnal Ffair Garon ym mis Mawrth yn y drydedd ganrif ar ddeg, ac roedd yn ddigwyddiad cymdeithasol o bwys yn ogystal ag yn ffair geffylau a chrefftau traddodiadol.

3. Mae dau gwrs hyfforddi eisoes wedi cael eu cynnal yn y dref ynghylch technegau adeiladu traddodiadol, dan nawdd y Cynllun Treftadaeth - un ynglŷn â defnyddio calch wrth adeiladu a’r llall ynglŷn â defnyddio cerrig wrth adeiladu. Mae’n fwriad cynnal cwrs arall yn ystod Gwanwyn / Haf 2007 ynglŷn â thechnegau traddodiadol gwaith coed sy’n gysylltiedig â hen adeiladau.

4. Er nad oes a wnelo hyn yn uniongyrchol â’r Cynllun Treftadaeth, mae’n dda o beth bod y Cyngor Sir wedi bod llwyddo i gael arian o dan Gynllun Adfywio Ffisegol y Cynulliad. Mae’r cynllun yn ymwneud â chyfaddasu hen adeiladau amaethyddol Iard y Talbot, datblygu depo bysiau ac ymestyn y maes parcio cyhoeddus er mwyn darparu cyfleusterau parcio y mae gwir eu hangen yn agos at ganol y dref.

5. Os oes gennych chi ddiddordeb chwarae mwy o ran yn y Cynllun Treftadaeth mae croeso i chi i ymuno â Bwrdd Ymgynghorol a Monitro’r Cynllun a gynhelir bob 2 fis. Mae gan aelodau’r Bwrdd ddiddordeb ysol mewn cadwraeth yn gyffredinol a chadwraeth yn Nhregaron yn fwyaf arbennig.


The Scheme is financed by the following :-
European Objective 1 Funding
Welsh Assembly Local regeneration Fund
Cadw (now part of the National Assembly)
The Welsh Development Agency (now part of the National Assembly)
Ceredigion County Council
Formerly Curiad Caron & now The Tregaron Tourism Co through voluntary time contributions
Private Contributions

 

Take a look at our recent property developments

 

Amodau a thelerau | Phreifatrwydd
Cronfa Dreftadaeth y Loteri | Heritage Lottery Fund Menter Aberteifi Ceredigion County Council CADW Objective 1