Cynllun Treftadaeth Tregaron - Y Cynlluniau Sydd Wedi Eu Hariannu - Dyfodol Y Cynllun
Cynllun
Treftadaeth Tregaron
Amcan y Cynllun
Amcan y Cynllun yw gwella golwg Tregaron a denu ymwelwyr ac ysgogi gweithgareddau economaidd a chreu gwaith. Mae’r Cynllun yn anelu at gyflawni hyn mewn sawl ffordd:-
1. Rhoi cyngor a chynnig grantiau
- Rhoi cyngor a gwybodaeth i bobl ynglŷn â sut y gallai technegau adeiladu a thechnegau atgyweirio hanesyddol gywir hybu eu busnesau a’r dref.
- Rhoi cymorth i’r busnesau yn yr ardal sydd wedi ei dynodi trwy gynnig grantiau (sy’n cael eu gweinyddu dan y rheoliadau sy’n ymwneud â Chymorth Gwladol) er mwyn gwella cyflwr ffryntiau’r adeiladau i safon adeiladau treftadol.
- Cynorthwyo busnesau newydd mewn adeiladau sy’n wag ar hyn o bryd ynn yr ardal sydd wedi ei dynodi trwy gynnig grantiau (sydd eto’n cael eu gweinyddu dan y rheoliadau sy’n ymwneud â Chymorth Gwladol)
2. Hybu digwyddiadau ar gyfer ymwelwyr
- Rhoi arian i 9 o wyliau gyda themâu yn Nhregaron yn ystod cyfnod y prosiect.
3. Hybu hyfforddiant/addysg
- Cynnal gweithgareddau o ran hyfforddiant ac arddangosiadau i grwpiau lleol a phobl broffesiynol sy’n gweithio ym maes treftadaeth.
4. Gwella cyfleusterau lleol
- Gwella nifer cyfyngedig o gyfleusterau lleol nail ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy’r cynllun.
Mae’r Cynllun yn cael ei ariannu gan y canlynol :-
Arian Amcan 1 Ewropeaidd
Cronfa Adfywio Lleol y Cynulliad Cenedlaethol
Cadw (sydd bellach yn rhan o’r Cynulliad Cenedlaethol)
Awdurdod Datblygu Cymru (sydd bellach yn rhan o’r Cynulliad Cenedlaethol)
Cyngor Sir Ceredigion
Curiad Caron gynt a Chwmni Twristiaeth Tregaron Cyf bellach drwy gyfraniadau amser gwirfoddolwyr
Cyfraniadau preifat
Take a look
at our recent property developments
|